Twitter:

Lluniau diweddaraf

Newyddion

« Yn ôl i Newyddion

Croeso

01
Sep

Pleser yw cael eich croesawu i’n gwefan fel eich Prifathro newydd. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i mi ac i holl randdeiliaid Garth Olwg gyda nifer o ddatblygiadau newydd o fewn y sector uwchradd. Braint ac anrhydedd yw cael ymgymryd â’r swydd hon ac felly ar ôl haf prysur o baratoi mae’r amser wedi dod i gymryd yr awenau’n ffurfiol yn llawn brwdfrydedd ac angerdd.

Mawr obeithiaf y cewch fwynhad o bori drwy ein gwefan lle cewch flas ar yr holl gyfleoedd a gweithgareddau y mae ein staff ymroddgar yn eu darparu i’n disgyblion. Yma hefyd cewch ddathlu gyda ni yn llwyddiannau ein disgyblion gweithgar a thalentog. Ymhyfrydwn yn ethos ofalgar yr Ysgol lle mae pwyslais ar les ein disgyblion yn sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd ac yn cyflawni eu potensial gyda gwên.

 

Ymhyfrydwn yn ein hetifeddiaeth gref ac arloesol ac mae holl aelodau presennol yr ysgol yn ymwybodol o’n cyfrifoldeb i sicrhau fod y winllan a roddwyd i’n gofal yn parhau i ffynnu yn yr unfed ganrif ar hugain.

Diolch yn fawr am ymweld â’n gwefan.

Trystan Edwards.

Prifathro. 

Croeso