Llongyfarchiadau i dîm buddugol Garth Olwg 1!
Ar y 24ain o Fawrth cafodd gwaith un o dimau Ffiseg Garth Olwg ei gwobrwyo gyda siec £500 am “Cymhwysiad mwyaf effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth”. Roedd y timoedd wedi gweithio gyda chwmni lleol, FSG Tool & Die, i ddatrys problem cael hylif oeri/iro at beiriannau yn y ffatri. Cyflwynodd y tîm ei datrysiad yn “The Big Bang Fair” De Cymru ar gampws peirianneg newydd Prifysgol Abertawe. Daeth Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru draw am sgwrs gyda’r tîm!
Aelodau’r tîm buddugol oedd; Iwan Cavil, Harriet Hooper, Oliver Kittridge, Robbie Mears, Morgan Riella, Daniel Thomas a Tirion Welsby.