Twitter:

Lluniau diweddaraf

Newyddion

« Yn ôl i Newyddion

Rownd Derfynol Cwpan Cymru - Pl-droed i Ferched o dan 15

14
May

Mae tîm pêl-droed merched dan 15 oed Ysgol Gyfun Garth Olwg wedi sicrhau buddugoliaeth wych yng ngêm derfynol Cwpan Ysgolion Cymru gafodd ei chynnal yng Nghroesoswallt ddydd Sadwrn (12 Mai). Chwaraeodd y tîm yn erbyn Ysgol Bro Myrddin yn y digwyddiad mawreddog yn stadiwm TNS, ac fe lwyddon nhw guro’r tîm o sir Gaerfyrddin 1-0. Mi fydd Cwpan Cymru nawr yn cael ei harddangos gyda balchder yng nghampws Ysgol Garth Olwg ym Mhentre’r Eglwys.

Rownd Derfynol Cwpan Cymru - Pl-droed i Ferched o dan 15